Sylwch na fydd y wefan hon ar gael dros dro o 3pm heddiw.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cartref Cŵn Caerdydd.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: Cardiffdogshome@cardiff.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Rheswm Meini Prawf Llwyddiant Issues
Nodwch benawdau ar gyfer pob PDF WCAG 2.0 A 1.3.1 4
Sicrhewch fod labeli rheoli ffurflenni WCAG 2.0 A 1.3.1 31
Sicrhewch fod PDFs yn nodi iaith ddiofyn WCAG 2.0 A 3.1.1 2
Tagiwch yr holl PDFs WCAG 2.0 A 1.3.1 1
Sicrhewch fod labeli yn y rhan o’r ddogfen yn pwyntio at wybodaeth adnabod ddilys WCAG 2.0 A 1.3.1 5
Dylid osgoi defnyddio’r un testun dolen ar gyfer gwahanol gyrchfannau WCAG 2.0 A 2.4.4 4
Lapiwch eitemau gyda’r un enw y tu mewn i set maes WCAG 2.0 A 1.3.1 4
Nodwch destun amgen ar gyfer delweddau y tu mewn i’r dolenni WCAG 2.0 A 1.1.1 36
Sicrhewch y gall darllenwyr sgrin ddefnyddio dolenni WCAG 2.0 A 4.1.2 52
Sicrhewch fod penawdau’n cynnwys testun WCAG 2.0 A 1.3.1 1
Nodwch bwrpas meysydd yn rhaglennol WCAG 2.1 AA 1.3.5 37

Dogfennau

​Mae rhai o’n dogfennau PDF yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym dogfennau Word sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau.

Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 01/10/2024.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 10/10/2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10/10/2024 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 11/10/2024.

 

Brig

© Cartref Cwn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan T?m y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd