Sylwch na fydd y wefan hon ar gael dros dro o 3pm heddiw.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Os dewch o hyd i gi

Beth i’w wneud os dewch o hyd i gi

Os dewch o hyd i gi sy’n amlwg ar goll, edrychwch i weld a yw’n gwisgo coler a disg adnabod.

Mae hi’n ofynnol i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. Ar gyfer ardal Caerdydd, bydd angen i chi gysylltu â Chartref Cŵn Caerdydd.  Byddwn yn trefnu i Warden ddod i gasglu’r ci a’i sganio am ficrosglodyn er mwyn ei ddychwelyd yn ôl i’w berchennog.  Os nad oes microsglodyn, eir â’r ci i Gartref Cŵn Caerdydd.

Os nad ydych o ardal Caerdydd, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:

Mae’r Gwasanaeth Wardeniaid Cŵn ar gael rhwng 08.30 a 17.00 o ddydd Llun tan ddydd iau a rhwng 08.30 tan 16.30 ar ddydd Gwener.  Nid oes unrhyw Wasanaeth Wardeiniaid ar ddydd Sadwrn na dydd Sul, na gwyliau’r banc.

Mae staff yn gweithio yn y Cartref Cŵn bob awr o’r dydd a nos ac mae ar agor i gymryd cŵn strae ar unrhyw adeg.  Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn ein ffonio ni’n gyntaf ac yn rhoi gwybod i’r staff eich bod chi’n dod â chi i mewn.

Gallwch hefyd fynd â’r ci at filfeddyg lle gallant sganio am ficrosglodyn ond sylwch nad oes gan y milfeddyg hawl i roi unrhyw wybodaeth i chi am y perchennog a bydd yn cadw’r ci ac yn ei adrodd i’r Gwasanaeth Wardeiniaid.

Os ydych chi’n awyddus i ailgartrefu’r ci, bydd angen i chi ddilyn y broses ymgeisio a pharu arferol.

Cwblhewch y ffurflen isod neu ffoniwch ni ar 029 2071 1243.






    Fe ymchwiliwn i weld a yw’r perchennog wedi cofnodi ei fod ar goll. Os yw wedi, fe geisiwn aduno’r ci â’r perchennog heb orfod dod â’r ci i’r cartref. Os nad oes cofnod bod y ci ar goll, daw’r Warden Cŵn i’w gasglu gennych yn ystod oriau gwaith. Gallwch hefyd ddod â chi strae yn syth atom yn y cartref cŵn ar unrhyw adeg. Mae rhywun yma 24 awr y dydd i dderbyn cŵn strae. Os yw’n bosibl, cysylltwch â ni cyn dod â chi atom y tu allan i’r oriau gwaith arferol.
    photo of a dog
    Ffoniwch ni ar 029 2071 1243

    Byddwch yn ofalus iawn wrth ystyried rhoi manylion ar y cyfryngau cymdeithasol. Er bod hynny’n ddefnyddiol iawn a gallai eich helpu i ddod o hyd i’r perchennog, mae’n bosibl y dewch ar draws pobl sy’n honni’n gelwyddog mai nhw yw perchennog y ci. Rhowch gyn lleied o wybodaeth â phosibl. Os yw rhywun yn wir wedi colli ei gi, bydd yn gwybod yr union fanylion amdano, o ran ei liw, maint, math ac ym mhle yr aeth ar goll. Mae lluniau’n cynnwys llawer o wybodaeth felly byddwch yn wyliadwrus ynghylch eu defnyddio.

    Y cŵn diweddaraf i gyrraedd y cartref

    Isod mae’r cŵn a ddaeth i’r cartref yn y 7 niwrnod diwethaf.

    Brig

    © Cartref Cwn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan T?m y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd