Rhybudd tywydd Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024

Bydd Cartref Cwn Caerdydd ar gau Dydd sadwrn y 7fed o Ragfur gan fod rhybudd tywydd goch.
Peidiwch a cheisio teithio I lawr i’r cartref cwn, bydd y gatiau wedi’u cloi. Cymerwch ofal pawb.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ni fydd y wefan ar gael ar dydd Mercher 18 (8:30am - 9am). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Gwnewch rodd

Pwysig

Nid ydym yn gallu defnyddio unrhyw gwiltiau, gobenyddion na chlustogau gan eu bod efallai yn rhwystr i’r cwn.

Gwneud rhodd

Gwerthfawrogir pob rhodd a chânt eu defnyddio er mwyn helpu i ariannu costau milfeddygol ac offer ychwanegol ar gyfer y Cŵn.

Gallwch wneud rhodd ar-lein i Gartref Cŵn Caerdydd .  Dewiswch ‘Cartref Cŵn Caerdydd – Rhoddion’ o’r rhestr taliadau.

Os allwch chi helpu gyda gofal meddygyniaeth ychwanegol ar gyfer y cwn sy’n cryraedd ni yng Nghartref Cwn Caerdydd  yna cysylltwch a ni ar www.therescuehotel.com/donate/

Gallwch hefyd wneud rhodd drwy ymweld â’r cartref a defnyddio arian parod neu gerdyn.

Os hoffech gofio amdanom yn eich ewyllys, gofynnwch i’ch cyfreithiwr adael rhodd i Gartref Cŵn Caerdydd.

Cofiwch amdanom yn eich ewyllys

Mae rhodd yn eich ewyllys i Gartref Cwn Caerdydd yn ffordd anhygoel i ddathlu eich cariad tuag at gwn ac yn yr un modd gadael cymynrodd parhaol i’r cwn sydd angen ein help.  Fe fydd unrhyw rodd bo bynnag y maint yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r cwn dan ein gofal.

Petaech eisiau adael rhodd i ni yn eich ewyllys fe fyddem yn argymell y byddech yn siarad a chyfreithiwr.

Petaech wedi cynnwys Cartref Cwn Caerdydd yn eich Ewyllys , fe fyddwn wrth ein bodd i glywed oddi wrthoch er mwyn cyflwyno ein diolchiadau.

Mae gofyn i ffrindiau a theulu i gyfrannu at Gartref Cwn Caerdydd mewn rhodd o flodau yn ffordd hyfryd o gofio cariad a dathlu  bywyd fel un sy’n caru cwn.

Petaech moen ein cofio yn eich ewyllys yna os gwelwch yn dda cysylltwch a’ch cyfreithiwr er awyn trefnu cymynrodd i Gartref Cwn Caerdydd.

Petaech eisioes wedi ysgrifennu eich ewyllys fe allwch ychwanegu codisil (ychwanegiad neu atodiad) er mwyn gadael rhodd ychwanegol i Gartref Cwn

Cyfrannu bwyd ac eitemau eraill

Mae croeso i chi anfon unrhyw blancedi cynnes, tywelion, tenynnau, coleri neu fwyd ci ‘Burns’ sych neu wlyb.

Derbyniwn hefyd roddion o ‘trits’ i’r cwn gyda diolch – yn enwedig rhoddion tebyg i sosej neu pate neu caws meddal ar gyfer y tegannau sydd gennym yma.

Gallwch alw heibio’r cartref gyda’r rhain.

Gallwch hefyd brynu eitemau oddi ar ein rhestr ar Amazon

Noddwch ni

Mae Cartref Cŵn Caerdydd bellach yn cael ei noddi gan Burns Pet Nutrition sy’n golygu bod pob un o’r cŵn yn cael ei bwydo â diet premiwm Burns.

Rhagor o wybodaeth  Gwefan bwyd Burns

Codi Arian

A fyddech gystal â rhoi gwybod i ni os ydych yn bwriadu trefnu digwyddiad i godi arian ar gyfer y cartref oherwydd mae’n bosib y gallwn helpu drwy roi cyhoeddusrwydd iddo.

Os hoffech ddechrau casglu arian ar gyfer y cartref yn eich cartref neu weithle, cysylltwch â ni i drafod eich cynlluniau.

Brig

© Cartref Cŵn Caerdydd 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddHygyrchedd