Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Os mae ci arall yn ymosod ar eich ci chi gallwch roi gwybod am hyn i’r Cartref Cŵn.
Nid ydym yn ymdrin â phroblemau o ran baw ci .
Bydd un o’r Gwardeiniaid yn cysylltu â chi ac yn eich helpu i atal hyn rhag digwydd eto. Os oes gennych fanylion ynghylch perchennog y ci arall, byddant yn cysylltu â’r perchennog ynglŷn â’i gyfrifoldebau wrth fynd â’i gi allan yn gyhoeddus. Yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, gall y Cartref Cŵn gymryd camau eraill. Gallwch hefyd roi gwybod am gŵn sy’n crwydro’n rheolaidd (yn cael eu gadael mewn mannau cyhoeddus heb eu perchennog).
Dylech roi gwybod i’r Heddlu os cewch eich ymosod gan gi.