Beth i’w wneud os dewch o hyd i gi
Os dewch o hyd i gi sy’n amlwg ar goll, edrychwch i weld a yw’n gwisgo coler a disg adnabod.
Mae hi’n ofynnol i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. Ar gyfer ardal Caerdydd, bydd angen i chi gysylltu â Chartref Cŵn Caerdydd. Byddwn yn trefnu i Warden ddod i gasglu’r ci a’i sganio am ficrosglodyn er mwyn ei ddychwelyd yn ôl i’w berchennog. Os nad oes microsglodyn, eir â’r ci i Gartref Cŵn Caerdydd.
Os nad ydych o ardal Caerdydd, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:
Mae’r Gwasanaeth Wardeniaid Cŵn ar gael rhwng 08.30 a 17.00 o ddydd Llun tan ddydd iau a rhwng 08.30 tan 16.30 ar ddydd Gwener. Nid oes unrhyw Wasanaeth Wardeiniaid ar ddydd Sadwrn na dydd Sul, na gwyliau’r banc.
Mae staff yn gweithio yn y Cartref Cŵn bob awr o’r dydd a nos ac mae ar agor i gymryd cŵn strae ar unrhyw adeg. Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn ein ffonio ni’n gyntaf ac yn rhoi gwybod i’r staff eich bod chi’n dod â chi i mewn.
Gallwch hefyd fynd â’r ci at filfeddyg lle gallant sganio am ficrosglodyn ond sylwch nad oes gan y milfeddyg hawl i roi unrhyw wybodaeth i chi am y perchennog a bydd yn cadw’r ci ac yn ei adrodd i’r Gwasanaeth Wardeiniaid.
Os ydych chi’n awyddus i ailgartrefu’r ci, bydd angen i chi ddilyn y broses ymgeisio a pharu arferol.
Cwblhewch y ffurflen isod neu ffoniwch ni ar 029 2071 1243.