Croeso maw’r i’r staffys newydd Cliff a Cilla! Daeth y ddau atom o dan amodau anffodus mewn cyflwr ofnadwy, yn dennau iawn a heb lawer o gyhyr. Roedd eu ewinedd yn hir iawn ac roedd yn amlwg doedd dim llawer o gariad yn eu bywydau cyn ymuno â ni. Nawr maent yn teimlo’n well ac yn barod am eu cartref newydd.
Maent tua 3-4 blwydd oed ac yn staffys tebygol sy’n hoffi rhedeg, neidio a chwarae ac yn edrych am gartrefi actif sy’n medru mynd ar anturiaethau a dangos y byd mawr prydferth iddyn nhw.
Mae Cliff yn fwy hyderus na Cilla sydd yn amlwg wedi ei heffeithio gan ei gorffennol ac felly mae’n cymryd hirach iddi hi gynhesu i bobl newydd. Mae’n tyfu mewn hyder gyda ni ac wrth chwarae gyda’i brawd ac mi fydd yn parhau mewn cartref cariadus.
Bydd angen i’r ddau mynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn nhw gweithio ar eu sgiliu tennyn a moesau.
Maent yn caru bwyd sy’n perffaith ar gyfer hyfforddi. Byddwn yn hoffi i ailgartrefi’r ddau gyda’u gilydd, serch hynny mi fyddwn yn ystyried ceisiadau wahanol ar eu gyfer nhw. Mae’n bosib gall y ddau byw gyda cathod a phlant 12+.

Cilla

Cilla

Cliff

Cliff
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Cliff and Cilla. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.