Croeso enfawr I Fish a Chips, y frenchies! Daeth y par hyfryd I ni fel crwydwyr ac yn edrych am gartref lle gallen nhw byw eu bywydau gorau ! Meant tua 4 oed.
Fish (frenchie lliw glas) yw’r frenchie mwyaf hyderus ac mae Chips (frenchie lliw haul) yn ffeindio cysur yn ei phresenoldeb.
Mae’r ddwy yn ansicr o bethau a phobl newydd sydd ddim yn supreis ar ôl iddyn nhw cael eu gadael ar y stryd.
Ar ôl iddynt ymddiried ynoch meant yn caru cwtch a sws. Byddwn yn hoffi’r ddwy cael eu cartrefu gyda’i gilydd ond nid yw’n angenrheidiol.
Maent yn hoffi mynd am dro a sniffio yn yr ardd ac yn iawn o amgylch cwn eraill, mae dieithriaid yn poeni’r ferched ond mae hyn yn gwella wrth gynyddu eu cymdeithasoli.
Mae’n bosib gall y ddwy byw gyda cwn eraill, cathod a phlant 10+ synhwyrol.
Comments are closed.