Mae Gomez yn fachgen annwyl ond mae’n medru poeni am y byd o’i gwmpas, serch hynny mae’n caru mynd am dro gyda’n gwirfyddolwyr. Bydd Gomez yn ffrind gorau I rywun sy’n mwynhau mynd am dro mewn natur a lan mynyddoedd! Mae hefyd yn caru treulio amser yn yr ardd yn cael zoomies. Mae’n mwynhau chwarae gyda’i degannau ac yn Hoff o treats.
Mae’n gallu poeni yn gyntaf wrth gwrdd â phobl newydd ond mae ei hyder yn tyfu pob dydd ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r Tim I wella hyn. Mae ganddo lawer o gariad ac yn hoffi cwtch a estyn ei bawen pan mae’n gyfforddus.
Mae hefyd yn medru poeni o gwmpas cwn eraill ond Rydym yn credu ei fod yn cyfarth nid oherwydd nad yw’n hoffi nhw ond ei fod yn ansicr a heb dderbyn hyfforddiant yn cwrdd â cwn eraill. Rydym yn credu bydd Gomez yn gallu creu ffrindiau cwn yn y dyfodol gyda hyfforddiant.
Mae’n fachgen cryf sydd angen cartref a pherchnogion tawel a hyderus. Mae’n dod ymlaen yn dda ond bydd angen gwersi hyfforddi arno.
Rydym yn hoff iawn o Gomez ac yn hyderus ein bod ni’n gallu ffeindio ei gartref bythol. Mae’n edrych am gartref tawel heb blant a heb anifeiliad eraill.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Gomez. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.