French bulldog tua 4-5 oed yw Narla. Cyrhaeddod â ni mewn cyflwr erchyll ond mae Narla yn ferch annwyl a chariadus iawn.
Mae hi bellach wedi ennill nôl ei phwysau delfrydol ac yn barod i ddod o hyd i’w gartref newydd
Mae hi’n gyfaill cerdded gwych ac yn hoffi archwilio ardaloedd newydd. Mae Narla hefyd yn ferch hamddenol ac yn hoffi cwtch ar lapiau.
Mae Narla yn hapus i gael ei phlygiadau gwyneb wedi ei glanhau yn ddyddiol a heb ddangps unrhyw broblemau yn cael archwiliadau milfeddygol.
Mae’n bosib gall Narla byw gyda phlant o bob oed a chŵn o faint tebyg. Byddem hefyd yn hapus i gyflwyno cathod iddi.
Gan ei bod yn math brachycephalic rydym cynghori perchnogion newydd i ymchwilio i’r brîd cyn gwneud cais er mwyn sicrhau bod ei holl anghenion yn cael eu cyflawni. Mae’n siwr bydd Narla yn mwynhau dosbarthiadau hyfforddi i helpu i barhau â’i sgiliau cymdeithasu a’i hyder.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Narla. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.