Croeso nôl i Jason y Labrador X patterdale prydferth. Yn anffodus mae Jason wedi ail-ymuno â ni gan fod ei deulu diwethaf ddim y ffit cywir iddo. mae Jason o gwmpas 1.
Mae’n fachgen llachar sydd wedi dod yn bell, mae’n gwybod sut i: “sit, down,wait,touch.play dead, roll over, spin,middle” ac yn gallu mynd i’r tŷ bach pan rydych chi’n ei ofyn. Mae angen parhau i weithio ar ei adalwad gan dyma ei sgil wanaf.
Oherwydd ei fathau mae gan Jason lawer o egni ac yn gymlethu pan nad yw ei anghenion yn cael eu cyflawni. Er engraifft mae’n neidio lan, cyfarth ac yn gegol. Bydd angen parhau i weithio ar hyn gyda Jason ond wrth iddo setlo mewn i gartref sy’n gallu gyflawni ei anghenion bydd Jason yn hapus iawn. Byddai Jason yn dda iawn yn gwneud chwaraeon cŵn ac yn caru rhedeg. Mae’n fachgen cariadus iawn pan mae’n dod i’ch nabod ac yn hoff iawn o’i beli tennis a thegannau tug.
Mae Jason wedi’i hyfforddi o ran mynd i’r tŷ bach tu allan a heb dangos unrhyw broblem wrth weld y milfeddyg. Mae wedi dangos bod gweld cŵn eraill yn anodd iddo ac yn ymateb pan mae’n gweld nhw. Mae Jason wedi derbyn hyfforddiant muzzle ac mae’r tîm yn y ganolfan wedi bod yn gweithio’n galed gyda ef ac mae wedi dangos gwelliant.
Mae Jason yn edrych am gartref profiadol heb blant ac anifeiliaid anwes eraill sy’n gallu cynnig beth mae angen i ffynnu.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Jason. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.