Croeso mawr i’n pup newydd llawn egni, Chutney! Rydym yn credu fod Chutney math Boxer X Cane corso. Cafodd Chutney ei ffeindio fel crwydr a tua 8 mis oed.
Mae Chutney yn ferch hapus ac yn mwynhau dysgu mwy am y byd o’i chwmpas. Gan ei bod yn ifanc mae’n bouncy ac yn amlwg heb dderbyn hyfforddiant sydd angen ar ci ifanc. Mae angen gweithio ar ei sgiliau cymdeithasu a cerdded ar y tennyn, yn ogystal a moesau cyffredinol i helpu pan mae’n gorlethu. Mae’n glyfar iawn ac rydym yn credu bydd Chutney yn cymryd i ddosbarthiadau hyfforddi yn dda iawn a gyda bach o waith mi fydd hi’n ci arbennig.
Mae gan Chutney llygaid ceirios ar y foment ac mae’n aros am lawdriniaeth i drwsio hyn yn ganolfan iechyd TRH.
Mae’n ferch hyfryd sy’n barod am ei bywyd newydd. Yn ddibynnu ar ragarweiniadau mae’n bosib gall Chutney byw gyda: cwn o faint tebyg. Cathod a phlant 16+ sy’n ymwybodol o fathau mawr.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Chutney. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.