Mae Jolly yn ci French Bulldog bach tua 6+ oed sy’n chwilio am gartref newydd.
Cafodd Jolly druan fywyd caled cyn cyrraedd gyda ni, yn cael ei defnyddio gan ‘greeders’ i gael cwn bach heb feddwl am ei lles. Daeth Jolly i ni â heintiadau clust ac alergedd croen ac roedd yn ei gadael yn ddolurus ac yn anghyfforddus.
Ers cyrraedd gyda ni, rydym wedi llwyddo i wella ei hiechyd, ac mae hi bellach fel ci bach newydd.
Mae hi wrth ei bodd yn chwarae a Chymdeithasu â chŵn eraill ac yn dda ar y dennyn.Roedd Jolly yn ffodus i dreulio peth amser mewn cartref maethu.
Mae Jolly wrth ei bodd a Chen eraill ac yn chwareus iawn, fodd bynnag, mae’n well ganddi fwyta mewn heddwch a bydd angen iddi gael ei gwahanu oddi wrth unrhyw cwn eraill yn ystod amser bwyd.
Teimlwn byddai Jolly yn blodeuo fel unig gi.
Bydd angen glanhau clustiau Jolly bob wythnos ac os bydd ei halergeddau’n llidus, efallai y bydd angen triniaeth a moddion semi.
Hyd yn hyn mae hi’n gwneud yn anhygoel ac rydyn ni’n obeithiol gyda’r ddeiet gywir a gwiriadau gofal iechyd rheolaidd y bydd hyn yn parhau yn ei chartref newydd.
Cofiwch bydd yswiriant yn dileu unrhyw amodau sy’n bodoli’n barod
Mae Jolly yn toddi ein calonau ac mae’n chwilio am soffa a pherson sy’n edrych am ffrind bach fel hi!
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Jolly. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.