Croeso I Lorna ein Shitzu X terrier sydd wedi ymuno â ni ar ôl iddi crwydro mewn stâd ofnadwy. Serch hynny mae Lorna wedi cael diwrnod pamper a triniaeth gwallt a nawr mae’n edrych yn bert! Bydd angen brwshio’i gwallt yn ddyddiol I sicrhau ddim clymau.
Mae’n ferch annwyl iawn sy’n mwynhau bod o gwmpas pobl. Mae’n Ifanc ond llawn hyder sy’n gallu tyfu yn ei chartref newydd. Bydd Lorna yn ci teulu perffaith gan ei bod yn mwynhau mynd am dro a cwtch ar y sofa! Mae’n mwynhau mynd am dro gyda’n gwirfyddolwyr a chwarae gyda’i thegannau yn yr ardd.
Mae’n bosib gall Lorna byw gyda: plant, cathod a chwn eraill.
Comments are closed.