Croeso mawr I’n fachgen golygus,
Mastiff X, Kingston. Death Kingston I ni ar ôl i’r sefyllfa newid gyda’i hen berchnogion. Mae’n amlwg fod Kingston wedi bod trwy gwpl o gartrefi ac o gwmpas 6 blwydd oed.
Mae’n fachgen cariadus sy’n mwynhau ei deithiau cerdded yn fawr iawn! Mae’n amlwg ei fod wedi derbyn tipyn o hyfforddiant gan ei fod yn ffeindio hi’n anodd mewn amgylchedd y cwteri sy’n wahanol iawn i amglychedd y cartred. Mae’n cymryd ei deithiau cerdded fel amser i di-bryderu a mwynhau y byd o’i gwmpas. Bydd angen hyfforddiant dennyn ar Kingston gan ei fod yn gryf, ond mae’n glyfar iawn felly ni fydd hyn yn broblem!
Bydd gwersi hyfforddi o fudd i Kingston er mwyn cryfhau ei sgiliu cymdeithasu a’i atgoffa o hen sgiliau. Dydy Kingston ddim yn ymatebol ond mae ganddo diddordeb mewn cwn eraill, felly bydd angen gwaith gyda’r math o gymdeithasoli hyn. Mae Kingston yn caru cwtch a chwmni staff a gwirfyddolwyr. Mae Kingston ar ddeiet gan ei fod dros ei bwysau ddelfrydol, felly bydd angen i berchnogion newydd Kingston Cadw lan gyda hyn.
Rydym yn credu bydd cartref heb anifeiliaid anwes eraill yn delfrydol ar gyfer Kingston, bywyd tawel gyda teithiau cerdded er ei ben ei hun. Mae’n bosib gall Kingston byw gyda phlant riddled 16+ sy’n ymwybodol a deallus o fathau o gwn mawr.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Kingston. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.