Yn croesawu ein pwdin fach, Theodor y Rottweiler! Daeth Theo i ni fel crwydr a chafodd ei ffeindio ar y stryd. Mae Theo wedi bod yn mwynhau ei amser gyda ni
Yn dysgu pethau newydd a sut i gymdeithasoli gyda’r byd mawr! Mae nawr yn edrych am ei gartref bythol a gan ei fod mor ifanc mae angen cartref ymrwymedig sy’n gallu cynnig hyfforddiant a swfydlogrwydd iddo.
Mae’n fachgen hyfryd sy’n mwynhau bod o gwmpas pobl. Mae’ chwareus iawn ac yn chwilfrydig o’r byd o’i gwmpas.
Mae’n gegog iawn ar y foment gan ei fod yn ifanc ond yn dysgu i gnoi ei degannau a amheuthunion! Mae’n sicr bydd Theo yn tyfu i fachgen fawr ! Mae’n tyfu’n gloi ac o gwmps 12-14 wythnos ar y foment. Mi fydd o fantais os oes profiad gyda math Rottweiler neu cŵn mawr ar ei berchnogion newydd fel eu bod yn gallu deall sut i gyflawni ei anghenion sbesifig.
Mae’n cysgu’n dda yn ei crât, yn mynd i’r tŷ bach ar ei padiau ac yn dysgu i fynd i’r tŷ bach yn yr ardd.
Bydd angen i berchnogion newydd ei gymryd i wersi hyfforddi i helpu Theo gyda chymdeithasoli a sgiliau cyffredinol ac efallai chwaraeon hwyl i gynnal ei ysgogiad. Mae Theo wedi dechrau dangos arwyddion o warchod adnoddau ac bydd angen I berchnogion newydd Theo gweithio gyda hyfforddiwr I weithio ar atgyfnerthiad positif. Bydd o fudd i Theo cael ci arall yn ei gartref newydd er mwyn dangos y ffordd a helping gyda’i ddatblygiad. Mae’n bosib gall Theo byw gyda: cathod, plant 16+
Comments are closed.