Sibrydwch croeso cynnes i Grinch. Serch ei henw mae’n ferch hyfryd, cafodd ei adael ar y Stryd heb ofal.
Rydym yn credu fod grinch tua 2 mlwydd oed. Roedd Grinch yn ofnus iawn pan cyrhaeddodd hi a chymerodd hi ei hamser I gynhesu atom yn y ganolfan.
Erbyn hyn mae wedi ymlacio yn ein cwmni ac yn hoffi fuss gan bobl mae hi’n ymddiried ynddo.
Mae’n mwynhau tegannau ac roedd hi wrth ei bodd yn agor ei hanrhegion ar ddydd Nadolig!
Mae grinch yn mwynhau mynd am dro gyda’n gwirfyddolwyr ac yn dysgu pob dydd I fod yn llai ofn o’r byd o’I chwmpas.
Mae’n cerdded yn dda ar y lead ac mae ganddi moesau dda. Mae’n poeni o gwmpas traffig felly mae angen perchnogion sy’n medru gweithio gyda hi I wella ei hyder.
Mae Grinch yn edrych am gartref oedolion yn unig lle mae’n gallu setlo a ffynnu mewn cartref dawel. Mae hefyd yn bwysig i berchnogion newydd grinch fod yn ymwybodol o’i hofn tuag at ddynion a bydd yn cymryd fwy o hamser a ymdrech i weithio gyda grinch i wella hyn.
Yn ddibynnu ar ragarweiniadau mae’n bosib gall grinch byw gyda:
Cŵn o faint tebyg.
Cathod.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Grinch. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.