Bow yw’r bonheddwr golygus hwn; mae tua 8 mlwydd oed ac yn anffodus cafodd ei hun yn ddigartref o ganlyniad i brofedigaeth. Ci tarw (Bulldog) Americanaidd yw Bow, mae’n lanc hapus iawn a dim ond eisiau cael ei garu. Gall fod yn gryf ar dennyn ond gydag amser mae’n cerdded yn fwy pwyllog. Mae’n lanc prysur ac nid yw’n colli yr un arogl. Mae gan Bow foesau da pan fydd yn mynd am dro a bydd yn pasio pob ci heb ddangos diddordeb na chymryd sylw o unrhyw beth heblaw’r arogleuon y mae’n eu dilyn. Nid yw’n hoff o stopio a byddai’n llawer gwell ganddo sicrhau record bersonol newydd o ran y camau mae wedi eu cymryd. Byddai ambell i damaid blasus bob yn awr ac yn y man yn cael ei werthfawrogi hefyd. Mae Bow wedi byw bywyd llawn cariad, mae wedi bod mewn cartref tawel ac mae’n debyg y byddai’n well ganddo fyw fel rhywun wedi ymddeol. Ef oedd yr unig anifail anwes yn ei gartref blaenorol ond byddem yn hapus i’w gyflwyno i drigolion tawel eu natur ac sydd o oedran tebyg iddo, fodd bynnag. Mae wedi bod yn iawn yn mynd am dro yng nghwmni plant gan fod ei berchennog blaenorol wedi mynd ag ef allan yn rheolaidd. Serch hynny, rydym yn teimlo y byddai Bow yn elwa o fod mewn cartref gyda phlant tawel hŷn oedran 16+; mae hyn yn seiliedig ar y ffaith ei fod yn ŵr hŷn sydd eisiau bywyd hamddenol. Pam y dylai orfod rhannu’r sylw ag yntau’n haeddu popeth?
Comments are closed.