Croeso mawr I’n pup newydd, Great Uncle Bulgaria. Efallai eich fod yn ymwybodol o stori GUBS yn barod. Cafodd ei adael mewn bin gan ei berchnogion ddiwethaf, a chafodd ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd a wnaeth ddod ag ef I’n gofal.
Ers iddo cyrraedd mae wedi datblygu’n dda, mae wedi cymryd y rôl fel rheolwr y swyddfa ac wedi bod yn mwynhau cymdeithasu gyda’r staff a’r gwirfyddolwyr. Mae’n gwybod gorchmynion fel “sit” “paw” a “spin” yn barod ac yn dda iawn yn ei gawell ac yn hoffi’i wely moethus.
Mae GUB yn glyfar iawn ac yn ddysgu’n gloi, mae hyd yn oed wedi Llwyddo gyda bach o hyfforddiant ufudd-dod. Mae’n gi anhygoel ac yn hoff iawn o bobl ac wedi setlo gyda brysurdeb y swyddfa. Mae’n dod yn fwy gyffredin gyda mynd allan ac yn tyfu mewn hyder. Mi fydd yn anturiaethwr gwych yn fuan!
I fod yn sicr o fath GUBS, anfonodd y tîm Profiad DNA i sicrhau ei fod yn mynd i gartref Addas. Rydym yn weddol sicr fod GUB yn gymysgedd o fathau gweithio sy’n golygu bydd ganddo gyriad mawr ac mae’n amlwg yn barod. Oherwydd hyn bydd angen cartref sy’n ymwybodol o fathau gweithio arno, sy’n medru’i helpu i gyflawni ei anghenion gan roi rhyw fath o swydd iddo, fel bod ei dueddau behafiad yn cael eu gwaredu mewn ffordd dda.
Bydd ANGEN I GUB mynychu dosbarthiadau hyfforddi i ddysgu sgiliau cŵn cyffredinol, cymdeithasoli a Moesau.
Mae’n bosib gall Uncle B byw gyda:
◦ Cathod
◦ Plant sy’n ymwybodol o fathau cŵn gweithio
◦ Cŵn eraill wedi’u hysbaddu.
Comments are closed.