Ci Tarw Ffrengig (French Bulldog) ifanc yw Tiny Tim, ein cymeriad avatar bach ni ein hunain, a gyrhaeddodd i’n gofal oherwydd iddo gael ei ddarganfod yn crwydro. Mae TT bach yn ymdrechu’n galed i fagu hyder a meithrin sgiliau cymdeithasu. Wedi iddo gyrraedd yma dangosodd mai ef yw’r bachgen anwylaf, ond iddo gael ei amddifadu o gariad. Wrth weld ein milfeddyg sylwyd bod gan Tiny Tim lawer o fraster o’r naill ochr i’r llall o’i drwyn sy’n gorchuddio ei ên isaf. Golyga hyn y bydd angen golchi a sychu o gwmpas ei geg bob dydd i’w gadw’n glir o facteria a lleithder. Bydd angen golchi plygiadau wyneb ac o gwmpas pen ôl Tim bob dydd hefyd. Nid oes gan Tiny Tim unrhyw broblemau bwyta ac mae’n caru ei fwyd. Mae’n fodlon iawn yn bwyta’i fisgedi pysgod cyflawn oherwydd nid yw bwyd cŵn gwlyb yn cytuno ag ef. Mae hyn yn wir am llawer o fridiau brachycephalic sy’n dod i’n gofal ni. Bydd angen cartref lle mae’r teulu yn medru deall anghenion TT bach, sef ei fod angen man diogel, digynnwrf arno lle y gall brifio yn ei amser ei hun. Bydd angen teulu sy’n gallu rhoi gofod iddo a gadael iddo fagu perthynas â nhw ar ei gyflymder ef ei hun. Mae’n bosibl y gallai fyw gyda chŵn eraill a chathod sydd wedi eu hysbaddu ac sydd o natur dawel. Mae Tiny Tim yn chwilio am gartref tawel heb blant. Nid yw’n barod am lawer o weithgaredd yn y cartref gan ei fod yn gallu poeni ynghylch pobl newydd a gormod o sŵn.
Christmas jumper day
on a walk
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Tiny Tim. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.