Dewch i gwrdd â’n pwten fach ni, y dywysoges Harley-Rose. Ci o fath bwli egsotig yw hi ac mae hi tua dwy flwydd oed. Cafodd Harley ei gadael o dan yr honiad ffug ei bod hi wedi ei darganfod yn crwydro ac fe gyrhaeddodd i’n gofal yn ferch bryderus, swil iawn.
Roedd angen amser ar Harley i ymgynefino… roedd dod i arfer â’i hamgylchedd a’i gofalwyr yn frawychus iddi. Fodd bynnag, buan y sylweddolodd ei bod yn ddiogel a dechreuodd ymlacio a derbyn ychydig o faldod a danteithion.
Gall Harley gael ei llethu rhywfaint pan gaiff lawer o sylw ac mae hi’n parhau i gael trafferth gyda phryder. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w helpu i fwynhau cael sylw; mae hyn yn caniatáu iddi deimlo fod ganddi reolaeth a’i bod ddim yn cael ei gwthio. Rydyn ni’n gadael iddi ddod atom er mwyn cael maldod am ychydig eiliadau, gan ailadrodd y drefn o beidio â chyffwrdd â hi oni bai ei bod hi’n dymuno ac mae hyn fel petai’n gweithio i’r dim. Mae Harley yn magu hyder o ganlyniad i gymryd camau bychain bach.
Mae’r byd mawr tu allan yn le eang i dywysoges fach ond fesul dipyn mae Harley yn dysgu archwilio. Dydy hi ddim yn gallu mentro’n bell ar hyn o bryd gan ei bod hi’n ofidus. Fodd bynnag, mae hi’n hoffi gwylio pobl o bell yn yr ystâd er mwyn sicrhau eu bod nhw oll yn gweithio’n galed. Roedd Harley yn teimlo’n gyfforddus iawn pan oedd hi’n gallu mynd ar antur i’r cae caeedig; roedd hi’n rhedeg o amgylch y caeau ac yn defnyddio’r holl lefelau gwahanol i neidio arnynt! Mae hi’n seren a bydd angen cartref tawel arni lle y gall addasu ar ei chyflymder ei hun a pheidio â chael ei gorlethu.
Bydd angen iddi gael cyfle bob dydd i ymarfer ei sgiliau cerdded ac i fagu hyder.
Mae angen ffrind gydol oes ar y ferch hon a chaiff y ffrind hwnnw lawer o firi a chariad diderfyn yn rhodd yn ôl ganddi. Mae angen amser, amynedd a lle ar Harley er mwyn iddi gael gwibio o gwmpas mewn diogelwch.
Gallai Harley fyw, o bosibl, gyda chŵn eraill o faint tebyg sydd wedi eu hysbaddu.
Teimlwn mai cartref i oedolion yn unig fyddai fwyaf addas iddi a byddem yn hapus i gyflwyno cathod sy’n byw yn y darpar gartref iddi hefyd.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn ein canolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Harley-Rose. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.