Joe Partridge
A wnewch chi estyn croeso cynnes i Joe Partridge, y lurcher hirgoes golygus, i’r gwesty os gwelwch yn dda? Mae tua 3 mlwydd oed.
Roedd mewn cyflwr gwael iawn pan gyrhaeddodd atom, roedd wedi cau i lawr, yn rhy ysgafn o ran ei bwysau ac roedd ganddo friwiau dros ei gorff. Ar ôl iddo ddeall y byddai ei ffrindiau dynol newydd yn rhoi llawer o ddanteithion blasus iddo a ffws di ben draw, cynyddodd ei hyder. Dechreuodd fagu pwysau trwy gael prydau bwyd cyson, ac mae bellach tipyn yn fwy sionc.
Mae Joe Partridge yn mwynhau troeon gyda’n gwirfoddolwyr; mae’n fachgen brwdfrydig iawn. Mae ganddo foesau da pan fo ar dennyn; mae’n lanc gosgeiddig .
Mae Joe’n parhau i fireinio’i sgiliau cymdeithasu ond ar y cyfan mae’n gwrtais ac yn barchus. Byddai’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i wneud cynnydd pellach gyda’i foesau wrth gwrdd â chŵn eraill.
Gallai Joe fod mewn cartref gyda phlant sydd wedi arfer â’r brîd lurcher, cŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu ac sy’n medru goddef ei chwarae dwl. Mae Joe yn ymdrechu’n galed i greu perthynas.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Joe Partridge. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.