Dewch i gwrdd â Honey, ci tarw (English bulldog) hardd gyda phersonoliaeth sy’n gydnaws a’i henw! Rydym yn credu bod Honey tua 4 mlwydd oed; mae hi bellach yn chwilio am ei theulu parhaol er mwyn cael cwtsh dyddiol gyda nhw.
Mae gan Honey natur hyfryd; mae hi’n eithaf nerfus wrth gyfarfod â rhywun am y tro cyntaf ac o bethau sy’n digwydd o’i chwmpas. Oherwydd hyn, mae hi’n hoffi glynu wrth bobl y mae hi’n ymddiried ynddynt er mwyn i’r byd beidio â theimlo mor frawychus iddi. Unwaith y bydd Honey wedi creu perthynas gyda chi, mae ei phersonoliaeth yn pefrio. Mae hi’n gallu gwneud i unrhyw un chwerthin pan fydd hi’n gwibio o gwmpas, a’i hoff bethau hi yw cael cwtsh ar y soffa a thro bach hamddenol o gwmpas yr ardd gyda’n gwirfoddolwyr.
Bydd angen i Honey fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu hyder; fodd bynnag mae hi’n derbyn pethau fel ag y dônt felly bydd hi’n mwynhau sesiynau hwyliog i’w helpu i deimlo’n fwy cyfforddus. Yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan, gallai Honey fyw, o bosibl, gyda:
– [ ] Chŵn eraill tawel sydd o faint tebyg iddi hi
– [ ] Plant tawel o unrhyw oedran
– [ ] Cathod
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Honey. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.