Dewch i gwrdd â Nemo, y llanc bach golygus hwn a gafodd ei hebrwng atom oherwydd ei fod yn crwydro. Roedd Nemo mewn cyflwr gwael pan gyrhaeddodd i’n gofal, roedd ei ewinedd wedi gordyfu ac roedd yn ddifrifol o ysgafn o ran ei bwysau. Roedd yn amlwg na ddangoswyd unrhyw gariad tuag at Nemo cyn iddo gyrraedd atom; roedd yn nerfus wedi cyrraedd ond yn fuan daeth i arfer â’r tîm a dechreuodd ei bersonoliaeth fyrlymus ddod i’r amlwg. Mae Nemo wedi cael diwrnod sba a gyda rhywfaint o fwyd ychwanegol yn ei fol mae’n magu pwysau bob dydd.
Credwn taw croesiad o staffi a whippet yw Nemo; mae ganddo gariad staffi a chyflymder whippet! Rhyw 9-10 mis oed ydyw. Mae Nemo yn fachgen bach hyfryd sydd â phersonoliaeth wych! Mae Nemo yn hoffi troeon hir a chwtsho gyda’i ffrindiau ymhlith pobl yn fwy na dim. Mae’n dal i ddysgu am y byd mawr a gall weithiau fod ychydig yn nerfus ynghylch pethau newydd, bydd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn gwella’i foesau ci bach sylfaenol yn ogystal â’i sgiliau cymdeithasu a bydd yn rhagori ar hynny, gan ei fod wrth ei fodd â’i ddanteithion!
Mae Nemo cerdded yn dda ar dennyn ac yn defnyddio ei goesau hir i gyflawni ei gamau ychwanegol bob dydd! Nid yw’n siŵr sut i chwarae gyda theganau ond mae wrth ei fodd yn rhedeg o gwmpas gyda’n gwirfoddolwyr yn yr ardd. Gallai fyw, o bosibl, gyda chi tawel hŷn sy’n byw yn y darpar cartref, cathod a phlant oedran 12+ sy’n gyfarwydd â chŵn brîd tarw yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Nemo. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.