A wnewch chi groesawu Mali i’r gwesty os gwelwch yn dda? Cyrhaeddodd y llanc bach truenus hwn i’n gofal ar ôl i’w fyd droi wyneb i waered, yn anffodus pan fu farw ei berchennog. Mae Mali nawr yn chwilio am ei gartref parhaol.
Ci defaid 3 blwydd oed yw Mali. Mae’r llanc bach hyfryd hwn yn llawn hoen felly mae’n chwilio am gartref lle mae gan y bobl yno amser i gwrdd ag anghenion ci defaid! Gall fod yn nerfus wrth gwrdd â phobl am y tro cyntaf ac wrth basio ceir a beiciau. Defnyddia Mali ei lais i roi gwybod i geir a beiciau ei fod angen lle. Bydd angen cyflwyniadau araf a bydd angen i’w berchennog/perchnogion newydd ymrwymo i fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn dangos i Mali nad yw’r byd mawr eang mor frawychus ag y mae’n ei feddwl. Er gwaethaf hyn i gyd mae gan Mali GYMAINT o gariad i’w roi i chi unwaith y bydd yn ymddiried ynoch. Mae’n mwynhau troeon hir, gêm o daflu a nôl tegan a chael crafu a chosi ei fol. Mae hefyd yn mwynhau chwarae gyda chŵn eraill pan gaiff ei gyflwyno’n iawn iddynt.
Gallai Mali ffynnu trwy chwarae chwaraeon cŵn er mwyn magu ei hyder a datblygu cyffro yn ei bawennau bach! Mae’n ddisglair tu hwnt ac yn hawdd i’w hyfforddi. Bydd angen cartref tawel arno lle y gall gwtsio lan ar y soffa hefyd.
Cartref gydag oedolion yn unig sydd ei angen ar Mali. Efallai y gall fyw gyda chathod a chŵn eraill wedi eu hysbaddu yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Os oes angen i chi gael rhagor o antur yn eich bywyd, byddai Mali yn hapus i helpu â hyn!
Comments are closed.