Mae Cassius yn gi tarw 3 blwydd a hanner a adawyd yn y filfeddygfa leol.
Mae’n fachgen annwyl, cryf. Mae ganddo bersonoliaeth doniol a fydd yn gwneud i chi chwerthin.
Mae Cassius wrth ei fodd yn mynd am dro. Po hiraf yw’r antur y gorau yw ei ddydd.
Rydyn ni’n teimlo y gallai Cassius fod yn addas i fyw gyda chi benywaidd sydd o faint tebyg ac â’r un faint o egni.
Bydd angen cofrestru Cassius i ddosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasoli.
Mae’n arbennig o dda’n eistedd a bydd yn disgwyl i’w berchennog ddal ei bawen.
Bydd angen i rywun fod adref â Cassius y rhan fwyaf o’r amser gan ei fod yn trafferthu ymdopi â bod at ei ben ei hun ar ôl iddo wneud ffrind. Mae hyn yn ddealladwy oherwydd y trawma meddyliol y mae wedi’i ddioddef o gael ei adael.
Os ydych chi’n chwilio am hogyn bach hapus sy’n llawn cariad, Cassius yw’r un i chi!
Cofiwch ei fod yn gryf, a bydd angen rhywun arno sy’n ddigon hyderus i’w reoli. Ar ôl iddo setlo, mae’n dda ar ei dennyn.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Cassius. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.