Turnip
Croesawch i’r gwesty ein Chihuahua croes fach mwyaf newydd, Turnip pwy yn anffodus gyrhaeddodd i fewn i’n gofal fel ci crwydr heb ei hawlio, fodd bynnag, mae ef nawr yn barod i chwylio am ei gartref am byth.
Cyrhaeddodd mewn cyflwr ofnadwy ac roedd yn amlwg wedi cael ei esgeuluso gan ei gyn-berchnogion. Roedd ei groen yn ddolurus a’i got yn ddrewllyd ac yn matslyd. Ar ôl diwrnod sba a gwastrawd sydd ei angen yn fawr, mae e nawr fel dyn newydd. Mae wedi bod yn mwynhau’r holl sylw gan staff a gwirfoddolwyr. Mae ganddo natur felys ac i fachgen bach, mae’n cymryd bywyd yn ei gam. Mae’n caru sylw ac mae bob amser yn chwilio am y côl nesaf i neidio i fyny arno.
Mae Turnip yn cerdded yn dda ar dennyn ac yn mwynhau ei deithiau cerdded, gan fynd allan i archwilio lleoedd newydd ac arogleuon.
Byddai Turnip yn fwyaf addas i gartref gyda rhywun gyda profiad Chihuahua sydd o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser am gwmni ac i’w helpu i setlo yn ei amser ei hun.
Bydd angen i’w berchnogion newydd hefyd fod yn ymroddedig i’w helpu gyda’i waith cynnal a chadw dyddiol, ac ufudd-dod sylfaenol.
Mae wedi dangos moesgarwch o gwmpas cŵn eraill felly, byddai Turnip yn elwa o fyw gyda chi preswyl cytbwys o faint ac anian tebyg ar gyfer cwmni a chymdeithasu.
Mae’n bosibl y gallai fyw gyda phlant call o bob oed a fydd yn barchus o’i faint a’i ofod, a hefyd cathod yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig yma yn y ganolfan.

Smiling

Boop

Looking cute

Beach buddy’s

Beach is job
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Turnip. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.