Sully
Croeso mawr I Sully! Ein bachgen hyfryd. Yn anffodus cafodd Sully ei adael ynghlwm I gât y ganolfan yn y nos ac wedi’i guddio yn y llwyni. Roedd sully yn ofnus iawn ac yn ddryslyd. Roedd wedi’i orchuddio yn ei wastraff ac roedd ganddo clymau yn ei ffwr. Nawr Mae Sully’n edrych a theimlo’n well ac wedi derbyn TLC gan y staff.
Mae Sully yn frid mawr gwarchod (Caucasian shepherd). Maent fel arfer yn gwarchod anifeiliad arall ac yn gryf iawn. Mae angen perchnogion brodiadol arnynt
Bydd angen cartref profiadol o fathau o gwn gwarchod ar Sully ac mi fydd yn ddelfrydol os oes profiad frid sully ganddynt.
Bydd sully yn cariadus iawn pan mae’n ymddiried ynoch ac yn caru cwtch. Serch hynny mae’n ansicr iawn o’r byd o’i gwmpas ac yn amlwg heb gael profiad agored o gwbl.
Mae pobl newydd yn frawychus iawn I Sully ac mae’n gweithio ar ei hyder sy’n tyfu o ddydd i ddydd. Mae synnau mawr yn medru achosi ofn iddo hefyd ac wrth gwrs nad yw amgylchedd cwteri yn helpu.
Mae angen cartref newydd arno fel gall Sully ymlacio a gweithio ar ei sgiliau cymdeithasol yn araf.
Rydym wedi gweld bod Sully yn hoffi cwn eraill, heb ddysgu i chwarae eto ond rydym yn credu bydd ffrind arall yn y cartref yn dda ar gyfer Sully ar gyfer ei hyder.
Roedd sully yn ddewr iawn ar gyfer ei bath a groom ac mae’n dysgu nad yw Mwythiad a brwsh yn frawychus.
Mae angen perchnogion sy’n barod I ymrwymo I gofal a hyfforddiant. Mae’n bosib gall sully byw gyda anifeiliaid arall yn seiliedig ar ragarweiniadau.

In the groom room

Quick freshen up to help me feel better

Finding the confidence to explore

Watching the birds

Looking handsome

With my best friend Rob, He is my favourite person.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Sully. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.