Croeso mawr I miss Tinks ! Tinker bell os ydych chi’n galw ei henw llawn! Mae Tink yn Collie x Kelpie 7 mis oed daeth I ni ar ôl I sefyllfa ei hen berchnogion newid.
Mae’n ferch hyfryd sy’n caru cwmni pobl ac yn clymu I chi fel glud! Mae’n caru serchogrwydd ac yn estyn ei choesau a’i phawen i roi cwtch i chi!
Mae’n amlwg nad yw hi wedi cael ei chymdeithasoli I’r byd mawr hyd yn hyn, yn enwedig fel dylai ci Bach fel hi.
Mae’n poeni am synau mawr ond yn ffeindio Llawer o hyder gyda phobl wrth ei hochr. Mae wedi bod i’r cae o freiddwydion ac wedi dangos ei bod hi’n gallu ymlacio a mwynhau rhedeg o gwmpas. Gyda pherchnogion â phrofiad Collie sy’n barod I gymryd pethau nôl i’r dechrau rydym yn hyderus bydd gofidiau Tinks yn gwella.
Mae’n caru cerdded ac wedi bod yn mynd am dro gyda’r gwirfyddolwyr sy’n darparu egwyl i ffwrdd o’r cwteri sy’n achosi llawer o bryder I tinks. Bydd Tinks yn ffrind anturiaethau perffaith ac mi fydd yn mwynhau mynd ar heiciau hir. Bydd ci arall yn y cartref o fudd i tinks er mwyn helpu hi datblygu a chymdeithasoli ac mae wedi mynd am dro gyda ci arall yn barod !
Mae’n bosib gall tinks byw gyda phlant 12+ a chathod yn seiliedig ar ragarweiniadau.

Tinks smiling

Tinks at collar club

Tinks having fun

Tinks and her ball

Tinks by the river

Tinks on a walk
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Tinks. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.