Croeso mawr I Chico y Chihuahua 3-4 oed. Cafodd ei arwyddo drosodd i ni ac yn barod am ei bennod nesaf yn ei gartref bythol.
Mae’n gallu bod yn ofnus o bobl a dynion nad yw’n gwybod ond yn cynhesu’n gloi ac yn neidio ar eich glin am fuss pan mae’n gyfforddus.
Mae’n Chihuahua sy’n cyfathrebu ei deimladau ac yn gofyn am barch oddi wrth bawb.
Yn anffodus nid does gan Chico lawer o ddanedd sy’n golygu bod ei dafod yn hongian allan fel bwytawr-morgrug! Mae hefyd yn golygu bod ei ên a’i frest yn wlyb o driblo gymaint. Serch hynny dydy hyn ddim yn ei boeni ac mae’n rhoi edrychiad unigrhyw iddo.
Mae Chico yn edrych am gartref gyda oedolion yn unig ac mi fydd yn ddelfrydol os oes profiad Chihuahua ganddynt. Bydd angen rhywun gyda Chico rhan fwyaf o’r amser i gadw cwmni iddo a dysgu sgiliau iddo.
Mae’n bosib gall Chico byw gyda cwn a chathod eraill yn seiliedig ar ragarweiniadau.
Bydd angen I berchnogion newydd chico lanhau ei ddannedd ac ên i gadw’n gyfforddus ac wrth gwrs ei wallt hyfryd!
Mae Chico wir yn gymeriad a bydd yn gwneud ffrind orau i deulu newydd.

Shot gun in the car

After my bath

Sitting pretty

Posing
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Chico. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.