Croeso mawr i’r bachgen hyfryd, Rhodri !
Daeth Rhodri i’n gofal fel ffug-crwydr, dydyn ni ddim yn gallu deall Pam byddai rywun yn rhoi’r gorau i’r bachgen golygus hyn. Mae Rhodri o gwmpas 9-12 mis ac yn edrych am ei gartref bythol.
Mae Rhodri wedi bod yn mwynhau mynd am dro gyda’r gwirfyddolwyr a sniffio ac archwilio popeth ! Mae’n caru chwarae gyda’i degannau a redeg ar ôl peli tennis yn yr ardd, ac yn hoffi cwtch wrth gwrs!
Mae’n gwybod sut I eistedd pan chi’n ei ofyn ac yn estyn ei bawen am fwyd!
Mae wedi dangos moesau arbennig o amgylch cwn a phobl eraill. Mae’n glyfar iawn ac yn edrych am gartref sy’n gallu parhau gyda’i hyfforddiant a chwrdd a’i anghenion fel math egni uchel! Mae wedi dangos behafiad bugeilio yn barod felly mae hyn yn bwysig iawn.
Mae Rhodri yn edrych am gartref gweithgar ac mae’n bosib gall byw gyda phlant, cwn a cathod.
Comments are closed.