Dyma Mary ein ferch math bully tua 2-3 mlwydd oed. Mae’n caru cwtch ac yn ffefryn ymhlith staff a gwirfyddolwyr. Mae’n hoffi mynd am dro ac yn holgar o bopeth o’i chwmpas. Dydy Mary ddim yn hoff iawn o’r oer a glaw ac mae well ganddi tycio lan yn ei gwely.
Mae’n gallu bod yn ferch sensitif weithiau ac mae angen cartref tawel arni hi fel ei bod hi’n gallu setlo ar ei hamser ei hun. Bydd angen ffiniau ar Mary yn enwedig pan mae pobl o’i chwmpas yn bwyta gan ei bod yn gorlethu’n gloi gyda bwyd. Er engraifft rhywle mae’n gallu bwyta bwyd ei hunain mewn tawelwch. Mae’n dysgu sut i chwarae gyda ei thegannau ac yn tyfu mewn hyder.
Rydym yn argymell bod Mary yn ymuno â gwersi hyfforddi yn syth i’w dechrau ar y ffordd gywir a chryfhau ei sgiliau cymdeithasoli a hyder. Mae Mary yn poeni o gwmpas plant ac felly yn well mewn cartref di-blant a chartref unig-gi.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Mary. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.