Croeso mawr i’n ferch prydferth Husky, Luna. Daeth i ni fel crwydr ac yn edrych am ei chartref newydd. Mae Luna yn 4 blwydd oed. Mae’n ferch annwyl a thawel am Husky ! Mae’n byw bywyd hyfryd yn mynd am dro gyda’n gwirfyddolwyr a chwtsh’s diddiwedd! Wrth gwrs fel pob husky mae’n hoffi canu can y Huskies pan mae’n cyffrous. Mae’n caru mynd am dro ac yn cerdded yn dda iawn ar y tennyn.
Mae Luna yn edrych am gartref sy’n gallu mynd a hi ar anturiaethau a chynnig cartref moethus. Bydd angen i berchnogion newydd Luna brwshio ei gwallt yn aml i gadw ei gwallt yn hyfryd a fluffy! Bydd hyfforddiant yn fuddiol i Luna er mwyn ei hatgoffa o’i sgiliau a gweithio ar ei moesau o gwmpas cwn eraill.
Mae’n bosib gall Luna byw gyda plant, cwn a chathod.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Luna. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.