Sibrydwch croeso cynnes i’r Lurcher newydd Jake JNR. Daeth Jake I ni mewn cyflwr ofnadwy gyda’i bawennau mewn poen ac yn dennau iawn, mae’n debygol cafodd ei ddefnyddio ar gyfer hela. Mae Jake JNR tua 5 oed. Mae Jake yn bachgen annwyl sy’n medru poeni am y byd o’i gwmpas. Serch hunny mae’n hoff iawn o fynd am dro gyda’r gwirfyddolwyr a chwarae yn yr ardd a chael zoomies. Mae’n edrych am deulu sy’n gallu cymryd pethau’n araf ac adael iddo setlo heb bethau i boeni amdano.
Mae’n hoffi cwtch pan mae’n ymddiried ynoch chi ac mae’n hoffi pwyso I mewn i’ch ochr. Mae’n ansicr o amgylch cwn eraill ac yn dangos hyn drwy ganu can! Rydym yn credu bydd Jake yn gwella gyda cwn eraill gyda hyfforddiant.
Mae Jake yn edrych am gartref heb blant a heb anifeiliaid eraill gyda láser o anturiaethau i ddod.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Jake JNR. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.