Sibrydwch helo I Helga y French bulldog 5 oed. Daeth Helga I ni fel ffug crwydr ac wedi bod yn mynd Allan ar anturiaethau bychan gyda’i ffrindiau newydd. Mae’n ymddangos fel bod ganddi moesau dda ar y Dennyn ac nid yw’n ymateb I seiclwyr na thraffig. Mae’n gallu bod yn siaradus wrth gerdded heibio cwn eraill ac mi fydd yn syniad dda iddi parhau gyda cynllun hyfforddi wrth gartrefi hi.
Pan mae’n cyfforddus mae’n hoffi cwtch ac mae’n gwella yn ymlacio. Mae’n hoffi chwarae gyda’i thegannau a cael zoomie. Mae ei hyder yn tyfu’n ddyddiol ond mae dal yn poeni ambell waith pan mae rhywun yn symud yn gloi neu os oes swn uchel.
Mae Helga yn edrych am gartref tawel, heb phlant a chwn eraill. Mae’n edrych am gartref sy’n gallu mynd ar antiriaethau a cael cwtch pan mae eisiau. Bydd hefyd angen I lanhau ei phlygiadau gwyneb yn aml.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Helga. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.