Croeso cynnes I’n fachgen Newydd hardd, Tobermory y Frenchie flewog 2 flwydd oed! Daeth I’n gofal fel crwydr ac yn anffodus ni ddaeth ei berchnogion I’w gasglu, nawr mae’n edrych am gartref Newydd ond am byth y tro hyn.
Mae ganddo bersonoliaeth wych ac yn bach o glown!. Mae’n cwrdd â phawb gyda cynffon a phen ôl waggy a gwen anferth, mae hefyd yn hoffi nôl Tegan pan mae’n cyffrous. Mae wedi bod yn mwynhau cymdeithasoli gyda gwirfyddolwyr ond ei hoff le yw’’r ‘pen’ yn y ganolfan lle mae yna box anferth llawn tegannau iddo chwarae gyda.
Weithiau mae synnau uchel yn ofni Tobermory, yn ein barn ni, ni wnaeth perchnogion diwethaf Tobermory ei gerdded yn aml gan fod ei bawennau yn sensitif iawn. Mae Tobermory bellach wedi bod yn mynd am dro gyda’n gwirfyddolwyr ac yn gryfhau ei bawenau fel ei fod yn gallu mynd ar deithiau cerdded hirach a mynd ar anturiaethau gyda’I berchnogion Newydd!
Yn anfoddus mae Tobermory yn ganlyniad o ‘frîdio’ wael, fel bod ‘greeders’ yn gallu gwneud eu harian. Ond dydy Tobermory ddim yn adael I hyn ei boeni a does dim broblemau ganddo. Gan ei fod yn flewog bydd angen brwshio a thorri ei ffwr yn aml, bydd hefyd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi I wella’I sgiliau.
Yn dibynnu ar ragarweiniadau mae’nbosib gall Tobermory byw gyda:
Cathod.
Cŵn arall wedi’u hysbaddu.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Tobemory. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.