Hoffwn gyflwyno’r ci mawr hardd hwn, Solomon, i chwi!
Cyrhaeddodd Sol i’n gofal oherwydd iddo gael ei ddarganfod yn rhedeg ar hyd ffordd gan aelod o’r cyhoedd. Credwn fod Sol tua 8 mis oed a’i fod yn gi o frîd croes, sef Doberman a Mallinois.
Mae Sol yn gi ifanc gwych sy’n mwynhau anturiaethau gyda’n gwirfoddolwyr a chwarae yn yr ardd yn ddi-ben-draw. Mae’n fachgen disglair tu hwnt sy’n gallu dysgu’n chwim iawn; mae eisoes yn meddu ar rhywfaint o driciau y gall ddangos i’w ddarpar deulu. Oherwydd bod Solomon yn hannu o ddau frid gweithredol, golyga hyn fod ganddo lawer o egni a chymhelliant. Byddem wrth ein bodd pe buasem yn medru rhoi cartref i Solomon yn rhywle lle y gellir bodloni ei anghenion brîd, rhywle lle y gall fynd ar anturiaethau, derbyn hyfforddiant a hyd yn oed cael gwneud campau cŵn fel ei fod yn byw bywyd hapus a bodlon! Bydd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i ddysgu rhagor o foesau a sgiliau cyffredinol ar gyfer bod yn gi parchus.
Yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan, gallai fyw gyda:
– [ ] Plant o oedran 14+
– [ ] Cathod
– [ ] Cŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu yn y darpar gartref
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Solomon. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.