Hoffwn gyflwyno’r hyfryd Lorenzo, ci bach hy o frîd terrier croes! Yn anffodus, daethpwyd â Lorenzo atom er mwyn ei ofalu amdano oherwydd ei fod wedi ei ddarganfod yn crwydro ac mae bellach yn chwilio am gartref parhaol. Dim ond llanc ifanc yw e; credwn ei fod tua 8-9 mis oed.
Mae Lorenzo yn fachgen hyfryd gyda llawer o egni a llawenydd i’w rannu. Mae’n mwynhau chwarae gyda’i ffrindiau ymhlith cŵn eraill ac mae wedi gwneud ffrind gyda chi arall, sef Uncle Bulgaria! Mae’n hoffi cerdded ar hyd yr afon gyda’n gwirfoddolwyr a thrybowndio yn ein maes chwarae gyda mwy o deganau nag y gŵyr beth i’w wneud â nhw. Mae wedi treulio diwrnod yn y Collar Club hyd yn oed, lle cafodd redeg ar wib a bod ar ben ei ddigon.
Mae Lorenzo yn llawn cariad unwaith y bydd yn ymddiried ynoch chi a bydd yn rhoi cusanau a chwtsh yn ddiddiwedd i chi. Mae’n hoffi setlo ar eich côl wedi iddo gael diwrnod llawn chwarae. Dangosodd fod ganddo ofn, ambell waith, wrth gerdded heibio ynteu ymwneud â dynion; rydym yn gwneud gwaith i’w helpu i ddod dros hyn. Bydd angen i’w berchnogion newydd fod yn ymwybodol o hyn a pharhau gyda’r gwaith o ddangos iddo nad ydyn nhw yn frawychus, a’u bod yma i ddangos cariad tuag ato. Mae’n cerdded yn dda ar dennyn ac mae ganddo foesau gwych. Bydd angen i Lorenzo fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu hyder a dysgu sgiliau cymdeithasu.
Yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan, gallai Lorenzo fyw gyda:
– [ ] Plant o bob oed
– [ ] Cathod
– [ ] Cŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu sy’n byw yn y darpar gartref.
–
toys
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Lorenzo. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.