Deego
Deego yw’r llanc bach hyfryd hwn. Cyrhaeddodd i’n gofal oherwydd ei fod wedi ei ddarganfod yn crwydro gyda’i flew yn glwm i gyd. Roedd ei flew mewn clymau tynn yn dynn wrth ei groen, gan beri dolur iddo.
Roedd angen diwrnod sba ar Deego, felly dyma’r person sy’n trin cotiau ein cŵn yn mynd ati i wneud iddo deimlo fel llanc newydd. Mae’n lanc bach hapus, llawn cariad sydd bellach yn barod i ddod o hyd i’w deulu perffaith.
Mae’n chwilio am gartref lle y gall fynd am anturiaethau lu a chael cofleidiau di ben draw. Bydd angen i Deego gael trin ei got yn aml er mwyn cadw ei gôt yn y cyflwr gorau.
Gallai fyw gyda phlant o bob oed, cŵn a chathod eraill. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Comments are closed.