.
Dyma’r corwynt ddiweddar i gyrraedd y ganolfan, Womble! Cyrhaeddodd Womble fel crwydr ac mae’n chwilio am ei gartref bythol le mae’n gallu mynd ar anturiaethau ddiddiwedd.
Mae Womble yn fachgen cyffrous iawn sy’n wrth ei fodd yn mynd ar deithiau cerdded hir gyda’n gwirfoddolwyr i gyflawni ei anghenion arogli daeargi, mae hefyd yn mwynhau ambell gêm erlid dail!
Mae Womble yn gorlethu’n hawdd iawn ac fydd angen i’w berchnogion newydd fynychu dosbarthiadau/gwersi hyfforddi, er mwyn helpu gryfhau ei sgiliau cymdeithasu a dysgu I setlo.
Er mwyn sicrhau fod Womble yn gyflawni ei anghenion a chadw ei ymennydd yn brysur rydym yn awgrymu ei fod yn dechrau chwaraeon cŵn, mae’n fachgen disglair ac egniol iawn felly mae’n perffaith iddo.
Unwaith bydd Womble yn ymddiried ynddoch chi mae’n fachgen cariadus iawn, mae’n mwynhau chwarae gyda’i deganau ar ôl taith hir a chael cwtch a chrafiad. Mae Womble yn addas ar gyfer cartref di-blant ac fel yr unig anifail anwes yn y cartref.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Womble. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.