Dyma Wednesday a hester y par o ‘pocket bullys’ hardd, Cyrhaeddodd y merched fel crwydwyr. Ar ôl cyrraedd roedden nhw’n o dan bwysau, ac roedd ganddyn nhw problemau gyda’u croen. Mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi adnabod cartref cariadus dylai pob ci ei wybod. Roedd y ddau yn swil pan gyrhaeddon nhw ond erbyn hyn mae eu cynffonau yn waggy!
Wednesday yw’r mwyaf dawel allan o’r ddwy, mae hi’n cymryd ychydig yn hirach i ddod allan o’i chragen ac ymddiried ynddoch chi. Fodd bynnag, unwaith y bydd yr ymddiriedolaeth yno mae hi’n hynod o gariadus , mae hi wrth ei bodd gyda chwtsh! Mae Wednesday yn mwynhau cerdded yn araf i lawr yr afon gyda’i chwaer ac mae wedi cwrdd â cheffylau ar ei theithiau. Bydd angen hyfforddiant arni i helpu i feithrin ei hyder a’i moesau cŵn cyffredinol.
Hester yw’r mwyaf hyderus o’r ddwy ! Mae hi’n cyfarch a phawb gyda chusan mawr ac yn mwynhau ei theithiau cerdded dyddiol a gwylio’r byd yn mynd heibio. Mae Hester hefyd yn hoffi cwtch ar ôl taith cerdded hir! Bydd angen hyfforddiant ar Hester i feithrin moesau cŵn a sgiliau cymdeithasu.
Nid yw’n ofynnol i’r merched hyn gael eu hailgartrefu gyda’i gilydd. Yn ddibynnu ar gyflwyniadau mae’n bosib gall y ddwy byw gyda Cathod a Phlant tawel o bob oedran.
Bydd Wednesday yn elwa o fyw gyda cŵn eraill ond mae Hester yn fwy addas i fod yn unig-gi.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Wednesday and Hester. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.