Dyma Thing! Cyrhaeddodd y bachgen bach golygus yma yn ein gofal fel crwydr. Pe bai rhaid i ni ddyfalu math Thing, byddwn yn dweud ei fod yn Pug X Frenchie. Mae ganddo cymeriad arbennig ac yn llwyddo I roi gwen ar wyneb pawb sy’n gweithio a gwirfyddoli lawr yn y ganolfan.
Mae Thing tua 1-2 oed, llawn egni ac yn chwilfrydig iawn, mae’n dangos llawer o ddiddordeb pan mae’n mynd allan am dro ac yn caru cwmni ein gwirfyddolwyr. Oherwydd ei fod yn math brachycephalic rydym yn cynghori perchnogion Newydd Thing i fonitro unrhyw ymarfer corff.
Mae Thing wedi colli allan ar ddysgu sgiliau cymdeithasu, Mae’n ddod ymlaen yn dda ond fel pob ci rydym yn awgrymu fod Thing yn mynychu gwersi hyfforddi er mwyn gryfhau ei foesau a sgiliau cyffredinol. Bydd angen I berchnogion newydd Thing paratoi am lawer o chwerthin, dysgu a chariad.
Mae’n bosib gall Thing byw gyda ci benywaidd arall sydd wedi’i hysbaddu. Rydym hefyd yn teimlo ei fod yn bosib I Thing byw gyda phlant hyderus.
Comments are closed.