Dyma ein ferch hardd Morticia ! Mae Morticia yn math Bulldog saesneg a daeth I fewn I’n gofal fel crwydr, cafodd ei hadael yn ddiofal gan ei pherchnogion blaenorol. Rydym yn credu fod Morticia tua 2-3 blwydd oed, ac mae’n chwilio am ei chartref bythol.
Mae Morticia yn ci bach hyfryd sy’n caru pobl. Mae’n gyffrous iawn pan mae’n gweld chi ac yn mynnu’r holl ffws posib. Mae’n mwynhau teithiau cerdded hir gyda’n gwirfyddolwyr a rhedeg o amgylch yr ardd! Mae gan Morticia bwndeli o egni a byddai’n ffrind gwych I deulu sy’n hoffi archwilio’r awyr agored.
Yn anffodus pan gyrhaeddodd Morticia roedd ganddi llygad ceirios sydd bellach wedi’I drin ac mae’n gwella’n dda! Bydd angen I berchnogion newydd Morticia glanhau plygiadau ei hwyneb pob dydd a mynychu gwersi hyfforddi I’w helpy gyda sgiliau cyffredinol.
Mae’n bosib gall Morticia byw gyda cwn, cathod a phlant yn ddibynnu ar ganlyniad rhagarweiniadau.
Comments are closed.