Dyma Missy, y ‘pocket bully’ brydferth sy’n tua 3 oed.
Pan gyrhaeddodd hi roedd hi’n ofnus iawn o’i hamgylchoedd newydd. Mae’n amlwg ei bod hi wedi crwydro am nifer o ddyddiau cyn dod i ni. Setlodd Missy yn gyflym a dangosodd i ni ei hochr cariadus. Unrhyw esgus am gwtsh, ac mae hi yna! Mae Missy wedi dechrau triniaeth ar ei chlustiau oherwydd heintiau clust a oedd yn achosi anghysur iddi, ond mae hi bellach yn gwella’n dda.
Mae’n amlwg fod Missy wedi cael bywyd galed a wedi roi geni i ormod o gwn bach. Mae Missy wedi colli allan ar amgylchedd teuluol cariadus hyd yn hyn ac yn haeddu anghofio ei gorffennol ofnadwy a ffeindio ei chartref bythol.
Mae’n bosib gall Missy byw gyda ci gwrywaidd wedi ei ysbaddu a phlant
14+ sydd â phrofiad gyda cŵn ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Byddwn yn hapus i gynnal cyflwyniadau rhwng Missy a cathod hefyd.
Bydd pob cyflwyniad yn cael ei wneud yn y ganolfan ac mae’n bosib gall hyn newid yn ddibynnu ar y canlyniadau.
fel pob ci, bydd Missy yn elwa o ddosbarthiadau hyfforddi i weithio ar ei sgiliau cymdeithasu gyda cŵn a sgiliau cyffredinol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Missy. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.