Dyma Kiera ein ferch ‘Bwli’ hardd!
Cyrhaeddodd Kiera at y ganolfan mewn cyflwr truenus iawn, roedd hi ‘dan bwysau a’i chroen yn hynod o ddolurus. Ar ôl llawer o gariad, triniaeth, bath a gofal gan y tîm mae hi nawr yn edrych ac yn teimlo fel ci gwahanol!
Mae Kiera yn hynod gariadus ac yn cael cysur gan y gwirfyddolwyr. Mae Kiera yn hoffi cyfarch pawb gyda chusan fawr a mwythau. Mae hi wedi dangos sgiliau cerdded (lead) gwych, ac yn cymdeithasu â chŵn yn wych. Mae Kiera hyd yn oed wedi cyfarfod â ffrind feline allan ar daith gerdded a doedd hi ddim yn talu unrhyw sylw. Mae Kiera wrth ei bodd â theithiau cerdded hir a byddai’n gyfaill heicio gwych, bydd angen iddi fynychu dosbarthiadau hyfforddi I gryfhau ei sgiliau cŵn cyffredinol a byddai wrth ei bodd yn gwneud rhyw fath o chwaraeon cŵn!
Yn dibynnu ar gyflwyniadau a wneir yn y ganolfan, mae’n bosibl y gallai Kiera fyw gyda: Cŵn o faint tebyg ac egni. Plant sy’n gyfarwydd â math bulldog, Cathod
Comments are closed.