Joe Partridge
A wnewch chi estyn croeso cynnes i Joe Partridge, y lurcher hirgoes golygus, sy’n tua 3 mlwydd oed.
Roedd joe mewn cyflwr gwael iawn pan gyrhaeddodd y ganolfan ac roedd e wedi cau lawr gan ei fod yn ysgafn o ran ei bwysau ac roedd ganddo friwiau dros ei gorff.
Ar ôl iddo deall fod staff a gwirfyddolwyr yn ffrindiau newydd gyda treats blasus a chariad iddo, cynyddodd ei hyder. Dechreuodd fagu pwysau trwy gael prydau bwyd cyson, ac mae bellach yn pwyso’n well.
Mae Joe Partridge yn mwynhau mynd am dro gyda’n gwirfoddolwyr ac yn fachgen frwdfrydig. Mae wir yn hyfryd.
Mae Joe’n parhau i wella ei sgiliau cymdeithasu ac mae’n gwrtais a pharchus. Bydd Joe yn elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i barhau i wella o ran ei foesau wrth gwrdd â chŵn eraill.
Gallai Joe fod mewn cartref gyda phlant sydd wedi arfer â’r brîd lurcher, cŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu ac sy’n medru goddef ei chwarae dwl.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Joe Partridge. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.