Dewch i gwrdd â Bryan!
Mae Bryan yn gi bach staffi brid cymysg sydd tua 10 mis oed ac fe ddaeth i’n gofal oherwydd ei fod wedi ei ddarganfod yn crwydro. Mae bellach yn chwilio am ei gartref parhaol er mwyn cael rhannu anturiaethau …
Mae Bryan yn gi bach sy’n llawn egni; mae’n dal i ddysgu sut i ‘fod yn gi’ ond mae’n derbyn popeth fel y daw. Mae’n frwdfrydig am bethau ac eisiau bod yng nghanol popeth sy’n digwydd o’i gwmpas, yn enwedig os oes danteithion ar gael. Mae gan Bryan yr egni i fynd a mynd a byddai wrth ei fodd o gael bod yn gyfaill cerdded i rhywun, neu hyd yn oed cael cymryd rhan mewn campau cŵn er mwyn cadw ei ymennydd yn brysur!
Bydd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i feithrin sgiliau bywyd cyffredinol megis cerdded ar dennyn, cymdeithasu, moesau cyffredinol ac ati – mae angen dechrau newydd arno! Cafodd sesiwn gyda’n hyfforddwr a dangosodd sut yr oedd yn medru dysgu sgiliau’n cyflym ac roedd ganddo gymhelliant gwych.
Yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan, gallai Bryan fyw, o bosibl, gyda:
chi arall yn y darpar cartref sydd yr un mor fywiog ag ef
Plant 14+ oed sy’n gyfarwydd â chŵn
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bryan. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.