Dewch i gwrdd â Nutmeg! Gast hardd o frid staffi wedi croesi yw hi ac fe ddaeth i’n gofal oherwydd ei bod hi wedi ei darganfod yn crwydro. Yn anffodus roedd Nutmeg yn rhy ysgafn o ran ei phwysau pan ddaeth atom ac roedd ganddi chwain a chroen dolurus pan gyrhaeddodd hi. Nawr, mae hi’n edrych ac yn teimlo’n well o lawer ar ôl cael rhywfaint o ofal tyner angenrheidiol gan y tîm.
Er gwaetha’r ffaith na chafodd Nutmeg ofal da yn y gorffennol, mae ganddi’r natur hyfrytaf. Mae Nutmeg yn cyfarch pawb gyda gwên fawr ac mae hi wastad yn ystyried pa anturiaethau y gall hi fynd arnynt nesaf. Mae hi’n mwynhau troeon hir gyda’n gwirfoddolwyr a dangosodd ei bod yn bartner gwych o ran archwilio pob twll a chornel.
Mae hi’n hoffi cadw’n agos at bobl ond yn mwynhau mynd ar wib drwy’r caeau hefyd; mae hi wrth ei bodd yn chwarae gyda’i hoff deganau a bydd yn eu cludo nhw o gwmpas er mwyn eu dangos i bawb! Bydd angen i Nutmeg fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn meithrin ei sgiliau cerdded ar dennyn a’i moesau o gwmpas cŵn eraill.
Yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan, gallai hi fyw gyda:
– [ ] Ci sydd wedi ei ysbaddu sy’n byw yn y darpar gartref
– [ ] Cathod
– [ ] Plant 16+
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Nutmeg. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.