Dyma Fabio, Chow Chow golygus! Daeth Fabio i’n gofal fel ci coll, yn ofnus ac yn drysu am ble roedd. Roedd ei ffwr mewn cyflwr gwael, ni chafodd ei gôt ei chadw’n dda.
Ers iddo fod yn ein gofal, mae Fabio wedi gwneud cynnydd mawr. Mae e wedi mynd I’r gweinydd cŵn ac mae wedi bod yn mwynhau amser cyswllt gyda’n staff a’n gwirfoddolwyr i adeiladu ei hyder. Mae’n Chow ifanc, felly mae ganddo lawer o botensial i weithio ar ei hyder mewn cartref newydd.
Er bod Fabio’n gallu bod yn nerfus pan fydd yn cwrdd â phobl am y tro cyntaf, unwaith y bydd wedi adeiladu’r ymddiriedaeth gyda chi, mae ei bersonoliaeth chwareus yn dechrau dangos! Mae’n mwynhau rhedeg o gwmpas yn y pen ac yn gwneud bow i chi cyn dechrau cael y “zoomies”, sy’n siŵr o wneud unrhyw un yn chwerthin!
Mae Fabio’n mwynhau cerdded ar lan yr afon gyda’n gwirfoddolwyr. Mae’n hoffi cael ei grafu ar ei gefn a’i ên i’w helpu i deimlo’n well am y byd ofnus! Mae wedi dangos sgiliau da wrth gerdded ar cynllyfan a mae’n niwtral o gwmpas cŵn eraill. Bydd angen i Fabio fynychu dosbarthiadau hyfforddi i helpu ei hyder a’i sgiliau cyffredinol fel ci.
Bydd angen perchnogion sy’n gyfarwydd â brîd Chow Chow. Mae angen i’w gôt gael ei brwsio bob dydd, ac ymweliadau rheolaidd i’r gweinydd cŵn er mwyn gadw i fyny â chynnal ei wallt hardd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Fabio Marcus. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.