Dewch i gwrdd â’n dyn bach golygus, Cash. Ci French Bulldog tair oed! Daeth Cash i fewn i’n gofal fel ci crwydr ac mae bellach yn chwilio am ei teulu newydd am byth.
Mae Cash yn fachgen hyfryd sydd â’r holl gariad i’w roi, mae’n gallu bod ychydig yn nerfus i ddechrau ond unwaith y byddwch wedi mynd ag ef am dro fe fydd yn eich ffrind gorau am oes! Mae Cash yn mwynhau mynd ar deithiau cerdded hir gyda’n gwirfoddolwyr ac mae wedi dangos moesau cŵn a sgiliau cerdded dennyn gwych. Mae’n ‘gi pobl’ ac wrth ei fodd gyda’i hoff bobl.
Bydd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi i helpu i roi hwb i’w hyder a’i sgiliau bywyd cyffredinol. Yn dibynnu ar gyflwyniadau a wneir yn y ganolfan, gallai Cash byw gyda:
[ ] Cŵn eraill
[ ] Plant o bob oed
[] Cathod
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Cash. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.