Dyma Bowie, ci hapus a hwyliog!
Cafodd ei adael yn greulon gan ei gyn-berchnogion a nawr mae’n chwilio am rhywun a fydd yn ei drysori am byth.
Mae’n tua 11 mis oed, felly fachgen ifanc gyda llawer o botensial. Bydd e’n angen fynd i ddosbarth hyfforddi cŵn i ddysgu sgiliau sylfaenol ac i chymdeithasu. Bydd yn ffynnu ar hyn gan ei fod yn ddisglair ac yn gydweithredol.
Mae Bowie yn hysgi nodweddiadol sy’n hoffi defnyddio ei lais i gyfleu ei deimladau. Mae wrth ei fodd yn mynd am dro hir. Mae hefyd yn caru gêm o ‘fetch’ a chwtsh mawr.
Bydd angen i’w berchnogion newydd Bowie gadw i fyny â’r gwaith cynnal a chadw ar ei gôt. Bydd angen ei brwsio’n ddyddiol ac ymweliadau aml â’r gwastwr cŵn i’w gadw’n llyfn sidanaidd.
Yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan, gallai Bowie fyw gyda:
Cathod
Cŵn arall gyda maint ac egni debyg
Plant dros 12 oed sy’n gyfarwydd â cwn tebyg
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bowie. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.